Y
Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd
E&S(4)-06-13
papur 2
Memorandwm ar Fusnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (BETS)
– Materion Gwledig
Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd – 21 Chwefror
2013
Cyflwyniad
Ymateb yw’r papur hwn i gais a wnaed am wybodaeth ar
gyfer Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd ar 21 Chwefror
2013.
1. Cyllideb atodol
Os bydd y
gyllideb atodol yn effeithio ar eich portffolio, carai’r
Pwyllgor wybod am unrhyw newidiadau, at fanylder lefel y
BEL.
a) Pori Anghyfreithlon - £0.150m (BEL
2831)
- Mae pori
anghyfreithlon yn cael effaith fawr a niweidiol ar lawer o
gymunedau ac unigolion ledled y De ac yn aml, mae bygythiadau a
gweithgarwch anghyfreithlon arall sy’n peri gofid i bobl yn
mynd law yn llaw ag ef.
- Ond nid mater rhad
yw rhoi stop ar yr arfer gwrthgymdeithasol o ollwng neu adael
ceffylau i bori’n anghyfreithlon a dwyn perchenogion
anghyfrifol i gyfrif. Mae’r cyngor cyfreithiol
sydd ei angen i erlyn achos yn llwyddiannus yn gostus iawn.
Mae’r cyrff sy’n erlyn yr achosion hyn wedi gofyn i
Lywodraeth Cymru am help i ysgwyddo’r costau
hyn.
- Rwyf wedi cymryd
yr awenau i geisio gael atebion i’r broblem hon. Mae
Llywodraeth Cymru yn rhoi blaenoriaeth iddi ac wedi cefnogi sefydlu
tîm o gyfreithwyr â’r arbenigedd technegol i
gynrychioli awdurdodau gorfodi. Bydd hynny’n gwneud
erlyniadau’n fwy llwyddiannus ac yn arwain at arbedion maint
gan y bydd llai o waith cefndir a briffio cychwynnol.
- Yng Nghaerdydd,
Bro Morgannwg a Phen-y-bont ar Ogwr y mae’r rhan fwyaf o
borwyr anghyfreithlon ac mae swyddogion y cynghorau lleol, yr
heddlu ac elusennau’n delio’n ddigyfaddawd
â’r mater. Mae’r sector cyhoeddus
(Cynghorau’r Fro a Phen-y-bont a Heddlu De Cymru) a’r
RSPCA wedi cydweithio dros y 12 mis diwethaf, gan ddangos sut mae
defnyddio’r ddeddfwriaeth bresennol i sicrhau gorchmynion.
Drwyddynt, maent wedi gallu cymryd camau yn erbyn y masnachwyr
diegwyddor sydd wrth wraidd y broblem,
- Trwy gydweithio a
chyd-drefnu, mae’r cyrff gorfodi’n rhannu gwybodaeth ac
mae hynny wedi arwain at ymateb cryf ac wedi helpu i ddwyn y rheini
sy’n gyfrifol i’r llysoedd.
- Trwy
gyd-drefnu’r agweddau cyfreithiol a chydweithio felly, gallwn
sicrhau bod y rheini sy’n parhau i dorri’r gyfraith fel
hyn yn cael eu herlyn a’u rhwystro rhag troseddu
eto.
- Rhag ofn y caiff y
broblem ei symud i rannau eraill o Gymru a thu hwnt (sy’n
bosibilrwydd byw), mae gennym nawr yr arbenigedd a’r arferion
gorau i’w rhannu ag awdurdodau lleol eraill iddynt allu mynd
at wreiddyn y broblem.
b) Dyraniadau i/o’r Cronfeydd Canolog
Dyraniadau nad ydynt yn arian parod - £0.023m (BEL
2830)
- Mae dyraniad
ychwanegol wedi’i roi i’r Gronfa Ganolog i dalu am
ddibrisiant ychwanegol yn yr asedau cyfalaf ar longau
pysgodfeydd.
.
c) Ailddyrannu Cyllidebau
- Cynllun Datblygu
Gwledig (£20.295m) –
mae’r gostyngiad yn 2012-13 wedi’i ddefnyddio i ymdrin
â blaenoriaethau eraill yn y portffolio. Cafodd y
gwariant ei ailbroffilio am y rhesymau canlynol:
- Daeth arian i law
y flwyddyn ariannol hon mewn dau brif faes: Glastir ac Echel
3.
- O ran Glastir,
mae’n hysbys i bawb bellach na fanteisiodd cymaint o ffermwyr
ar y cynllun â’r disgwyl. Roedd nifer o resymau
am hynny, ond y pennaf ohonynt oedd yr estyniad i’r
cynlluniau Tir Gofal (heb gynnwys elfennau gwaith cyfalaf), Tir
Cynnal a Tir Mynydd ac ansicrwydd ynghylch effaith diwygio’r
PAC a’r elfennau gwyrdd cysylltiedig ar Glastir.
- Yn sgil pwyso a
mesur Glastir, mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud iddo i
ddenu mwy o ffermwyr i gymryd rhan. Pan gytunith y Cyngor ar
gyllideb yr UE, rwy’n disgwyl y daw manylion diwygio’r
PAC a’r elfennau gwyrdd, gan gynnwys beth ynddynt fydd yn
cyfateb i Glastir a chynlluniau amaeth-amgylcheddol eraill, yn
gliriach. Bydd hynny’n helpu ffermwyr i benderfynu a
ddylent ymuno â’r cynllun.
- O safbwynt Echel 3
a’i amcan i wella ansawdd bywyd mewn ardaloedd gwledig ac
arallgyfeirio’r economi wledig, cafwyd rownd i wella ac estyn
prosiectau Echel 3 er mwyn eu hailbroffilio ar gyfer y
dyfodol.
- Y Cynllun Cymorth
i Newydd-ddyfodiaid Ifanc (YESS) (£1,705k) (BEL
2794) – gan mai
cynllun cyfalaf yw hwn yn bennaf, rydym wedi symud yr arian
o’r golofn refeniw i’r golofn cyfalaf, ond gan ei gadw
yn y Cynllun.
2. Llongau gorfodi’r
Pysgodfeydd
Carai’r Pwyllgor wybod y diweddaraf am y broses gaffael
ar gyfer y llongau hyn, gan gynnwys yr ystyriaethau rydych
wedi’u gwneud fel rhan o’r broses i gael gwerth eich
arian ac o ble daw’r arian i brynu’r
llongau.
- Mae swyddogion
wrthi’n cynllunio ar gyfer cwrdd â’r galw sydd i
ddod, gan gynnwys yn sgil diwygio’r PPC a’r perygl y
gallai’r Llynges a’r Sefydliad Rheoli Morol
leihau’u cefnogaeth. Mae ymchwil yn cael ei chynnal i
dechnoleg newydd ar gyfer gorfodi cydymffurfiaeth. Gallai
hynny olygu cynnal treialon, yn ogystal â chynllunio ar gyfer
asedau ychwanegol gan gynnwys ased gwell a mwy i’w ddefnyddio
ar y môr.
- Mae’r
cynllunio’n cynnwys ymarfer caffael i gael asedau mordwyo
newydd i Lywodraeth Cymru. Mae achos busnes ynghylch yr ateb gorau
wrthi’n cael ei baratoi i’w ystyried gan
Weinidogion. Mae cyllideb ddangosol wedi’i dyrannu o
fewn BETS ar gyfer cynnal yr adolygiad cychwynnol a’r ymarfer
caffael ym mlwyddyn ariannol 2013-14.
3. Cronfa ddata tagiau electronig defaid
(EID)
Hoffai’r Pwyllgor wybod beth sy’n digwydd
gyda’r rhaglen hon, gan gynnwys yr wybodaeth ariannol
ddiweddaraf.
- Cynigiodd
Llywodraeth yr Alban ein bod yn edrych ar eu system ScotEID a daeth
i law i ni ei hystyried ym mis Hydref 2012. Bu’n rhaid
adeiladu platfform yn annibynnol ar brif system Llywodraeth Cymru
er mwyn i ni allu cynnal profion defnyddio a phrofion angenrheidiol
eraillarni. Mae system ScotEID bellach yn gweithio ac rydym
wrthi’n cynnal profion. Byddwn yn defnyddio’r
canlyniadau i’n helpu i bwyso a mesur yr opsiynau a llunio
Achos Busnes ar gyfer EIDCymru. Yn ôl cynllun y prosiect,
cwblheir yr adolygiad o’r opsiynau a’r cynllun busnes
cyn diwedd mis Ebrill 2013.
- Bydd yr achos
busnes yn asesu’n fanwl yr holl opsiynau sydd ar gael i ni,
gan gynnwys y system ‘bapur’ gyfredol, addasu ScotEID
ar gyfer Cymru ac adeiladu/prynu system benodol i Gymru, ynghyd
â darparu costau cadarn.
- Mae gwaith
wedi’i wneud i ddiffinio’r anghenion trwy brosiect
Adnabod Da Byw Hwyluso’r Drefn. Mae dogfen ddrafft ar
brif ofynion EIDCymru wedi’i pharatoi a’i chyflwyno
i’r Grŵp Cynghori ar Adnabod Da Byw am ei sylwadau ar 8
Chwefror.
- Rwyf wedi
ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol Owen Paterson i gael addewid
ganddo bod y system y mae Defra newydd ei chyhoeddi, fel system
EIDCymru, yn gallu cyfnewid gwybodaeth am symudiadau dros ffiniau.
Mae fy swyddogion yn pwyso ar Defra ynghylch y materion pwysig hyn
a byddant yn codi’r pwnc hefyd gyda’r cwmni a ddewisir
gan broses gaffael Defra.
4. Tanwariant y Cynllun Datblygu Gwledig
(RDP)
Carai’r Pwyllgor wybod mwy am statws diweddaraf gwariant
yr RDP ac unrhyw addasiadau sydd ar y gweill.
- Fel rhan o’r
gwaith ar reoli’r rhaglen, byddaf yn gweithio gyda Phwyllgor
Monitro’r Rhaglen i gynnal adolygiad trylwyr o sefyllfa
ariannol yr RDP ym mis Mawrth pan fydd gennyf fwy o wybodaeth
ynghylch y nifer sy’n ymuno â Glastir. Byddaf yn
ysgrifennu at y Pwyllgor ar ôl i’r adolygiad gael ei
gynnal.